Mae cangen Trefynwy a'r dalgylch yn cynnig ystod o wasanaethau gan gynnwys dosbarthiadau cynenedigol er mwyn eich helpu chi a’ch partner i baratoi am enedigaeth eich plentyn.
Maent yn cynnal amryw o weithgareddau er mwyn eich cefnogi chi a’r babi. Mae hyn yn cynnwys Egwyl Goffi, sydd yn rhoi cyfle i chi gwrdd â rhieni newydd eraill mewn amgylchedd anffurfiol a’r grŵp ‘Bumps and Babes’ lly mae mamau newydd yn medru dod ynghyd mewn cartrefi gwahanol unwaith y mis.
Mae Arwerthiannau Bron yn Newydd yn cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn. Dyma gyfle gwych i brynu nwyddau ail lawr ar gyfer eich plentyn a gwerthu eitemau nad oes eu hangen arnoch mwyach gan eu bod wedi tyfu mor gyflym.
Cyfeiriad Gwefan: www.nct.org.uk/branches/monmouth
Ebost: [email protected]
Rhif Ffon: 0300 330 0700