Paint on Me - Stiwdio Paentio Crochenwaith Symudol

Stiwdio paentio crochenwaith symudol a fydd yn dod â phopeth sydd ei angen arnoch i'ch digwyddiadau.

Bydd staff Paint On Me yn dod i chi ac yn eich tywys trwy'r digwyddiad o'ch dewis, yna yn mynd â'ch creadigaethau i ffwrdd i'w tanio a'u sgleinio cyn dychwelyd y cynnyrch terfynol wythnos yn ddiweddarach.

Gall Paint On Me ddod i fwy neu lai unrhyw ddigwyddiad megis partïon pen-blwydd, grwpiau cymunedol, digwyddiadau codi arian a meithrinfeydd.  Mae Paint on Me hefyd yn gwneud argraffiadau llaw babanod.

Prisiau yn dechrau o £5.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gail neu ewch i wefan Paint on Me.

Cyfeiriad: www.paintonme.co.uk
Ebost: [email protected]